SL(5)032 – Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cyfansoddiad Paneli: Personau Rhagnodedig) 2016

Cefndir a Phwrpas

Mae adran 174 o’r Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Gofal Cymdeithasol Cymru wneud rheolau i sefydlu paneli apelau cofrestru, paneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim. Mae adran 174(5)(a) o’r Ddeddf yn cynnwys rhestr o bersonau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o banel.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 174(5)(b) o’r Ddeddf, sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi personau ychwanegol na chaniateir iddynt fod yn aelodau o banel.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): bod yr offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae’r Rheoliadau’n cael eu gwneud o dan adrannau o Ddeddf 2016 sydd ddim mewn grym eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym erbyn 3 Ebrill 2017 (hynny yw, y dyddiad y mae’r Rheoliadau’n dod i rym). Er nad yw’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud y Rheoliadau trwy ddibynnu ar adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 sydd yn galluogi rhai pwerau i gael eu gweithredu cyn i’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 ddod i rym.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Tachwedd 2016